Datrysiadau Rhyngrwyd Cyfan
crynodeb
systemau
rhwydweithio
gosod
cynal a chadw
English | Cartref | Dylunio i'r Wê | Gwasanaethau TG | Amdanom Ni | Cyswllt

Cynnal a Chadw

Gallwn gynnig amrywiaeth o becynnau cynnal a chadw, o gytundeb llawn cynnal a chadw i ymweliadau yn ôl y gofyn.

Gall cytundebau Cynnal a Chadw amrywio hefyd. Gall fod yn gefnogaeth ffôn neu ymweliadau safle neu gynnal a chadw wedi ei gynllunio o flaen llaw pryd y byddwn yn cyfarfod i drafod unrhyw faterion sydd yn codi er mwyn eu trin cyn eu bod yn troi yn broblemau.

Efallai y byddai'n well gennych wasanaeth wedi ei deilwra yn arbennig i'ch anghenion a'ch amgylchiadau chi - gallwn deilwra pecyn sydd yn cwrdd â'ch anghenion ac os nad yw'n addas gallwn ei newid yn hawdd.

Gall hyn gynnwys cyfuniad o:

  • Cynllun Cynnal a Chadw
  • Cefnogaeth dros y ffôn
  • Cefnogaeth ar eich safle
  • Cefnogaeth mewn argyfwng naill ai yn ystod oriau swyddfa yn unig neu 24/7

Gall cytundebau Cynnal a Chadw amrywio o Gytundeb Lefel Gwasanaeth i drefniant llai ffurfiol.

Gallwn hefyd gynnig gwasanaeth atgyweirio cyfrifiaduron - gallwn fel arfer ganfod y broblem ar eich safle a chynghori ynglyn â'r amser i atgyweirio neu bryniant a'r opsiynau gorau i'ch busnes.

Adfer Sefyllfa Trychinebus

Mae hyn yn aml yn un o'r pethau bydd busnesau bach yn anwybyddu, ond ydych chi wedi meddwl sut fyddech busnes chi yn cario mlaen petai lladrad, tân neu ymosodiad feirws yn dinistrio'ch systemau chi? Gallwn gynnig cyngor i chi ar yr ateb mwyaf cost-effeithiol i chi, a hyfforddi eich staff i wneud yn siwr eu bod yn gweithredu'r camau angenrheidiol. Byddwn yno hefyd i helpu chi i godi nôl ar eich traed petai'r gwaethaf yn digwydd.

© Datrys 1998-2004 | Telerau ac Amodau