Dylunio Gwefannau
Gallwn ddylunio a hostio eich gwefan. Mae'r math o wefan yn dibynnu ar eich anghenion a'r cyllid sydd gennych. Gallwn ddarparu gwefan sy'n rhoi presenoldeb syml ond proffesiynol i chi ar y Wê am bris rhesymol, neu fe allwn gynnig gwefan llawn sy'n cynnig cyfleusterau siopa ar y Wê. Gallwn ddefnyddio unrhyw ddeunydd marchnata sydd gennych yn barod neu gynhyrchu ein deunyddiau ein hunain. Byddwn bob amser yn cysylltu â chi i wneud yn siwr eich bod yn hapus â'r canlyniadau.
- Gwefan fusnes syml - gwybodaeth a manylion cyswllt
- Gwefan wedi ei reoli'n llwyr gennym ni - gallwn ofalu am ddiweddaru'r wybodaeth i chi
- Gwefan gyda System Rheoli Cynnwys (CMS) lle gallwn eich hyfforddi i gadw'r wefan yn gyfredol eich hunain
- Mewnrhwyd - gallwch gael safle wê mewnol sydd yn dosbarthu gwybodaeth yn fewnol yn unig
- Allanrhwyd - cwsmeriaid penodol yn gallu cael mynediad i wybodaeth ychwanegol sydd ddim ar gael yn gyffredinol ar eich gwefan
- e-Fasnach, o wefan gyda chatalog o nwyddau i siop ar-lein i gwsmeriaid allu prynu nwyddau
|