Datrys - Amdanom Ni
Ffurfiwyd Datrys yn wreiddiol yn 1989 yn Hampshire, Lloegr gan Emyr Rees, o dan yr enw Key Computer Centre Ltd, er mwyn cyflenwi datrysiadau meddalwedd i fusnesau. Symudodd y cwmni i Sir Gaerfyrddin ym 1990 er mwyn galluogi'r perchnogion i ddychwelyd i fro eu mebyd. Yno parhaodd i ddarparu datrysiadau i gwmniau ar draws Ewrop. Yn y flwyddyn 2000 mabwysiadodd Key Computer Centre yr enw Datrys wrth i'r gwasanaethau a gynigiodd y cwmni ehangu i gwmpasu gwasanaethau caledwedd yn ogystal â meddalwedd i gleientiaid. Newidiwyd yr enw cofrestru swyddogol i Ganolfan Cyfrifiadurol Datrys Computer Centre yn Ebrill 2003 i adlewyrchu'r pwyslais parhaol ar ddarparu atebion dwyieithog i anghenion cyfrifiadurol cwmniau bach.
Erbyn hyn mae Datrys wedi ei seilio yn Llanelli, Sir Gaerfyrddin ac yn gweithio gyda busnesau o Aberystwyth i Gaerdydd a tu hwnt.
Mae Datrys yn enw masnachu i Ganolfan Cyfrifiadurol Datrys Computer Centre, rhif cofrestru 2303668.
|